Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Ymchwiliad Strategaeth Iaith Gymraeg

Eich enw

XXXX XXXX

Rôl

Rheolwr Polisi

Sefydliad

 

Cyfeiriad

Mudiad Meithrin, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth.  SY23 1PD.

E-bost cyswllt

XXXX XXXX

Rhif ffôn cyswllt

01970 639639

Cefndir Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.

Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.

Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol. Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. 

O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda’r asiantaeth Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg leol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.

Yn ogystal, mae’r is-gwmni Cam wrth Gam, yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar trwy’n cynllun hyfforddiant cenedlaethol.  Gwneir hyn trwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynlluniau hyfforddi cenedlaethol.  Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a dilyswyr mewnol ledled Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl, yn staff cenedlaethol a sirol ac mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000 o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei hunain. 

Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag awdurdodau Lleol.  Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref.

Nodwn fod telerau'r ymchwiliad yn bwriadu canolbwyntio yn benodol ar y canlynol:

Defnydd ysgolion o'r Grant Datblygu Disgyblion a'r graddau y mae o fudd i'r disgyblion a dargedir;

1)      Y berthynas rhwng cymorth a ariennir gan y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n gymwys am ginio am ddim a gwariant ar weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i wella cyrhaeddiad pob disgybl;

2)      Defnydd consortia rhanbarthol o'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant y gofalir amdanynt a phlant a fabwysiadwyd, a'r effaith y mae hwn yn ei chael;

3)      Y cynnydd a wnaed ers ymchwiliad blaenorol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2014: Ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel;

4)      Effaith rhaglen Her Ysgolion Cymru a goblygiadau'r ffaith ei bod wedi dod i ben ar yr ysgolion ‘Llwybrau Llwyddiant’ a oedd yn cymryd rhan ynddi;

5)      Sut y gellir defnyddio gwersi a ddysgwyd yn sgil Her Ysgolion Cymru, a’i gwaddol, i ategu polisïau a mentrau dilynol sydd â’r nod o wella canlyniadau addysgol;

6)      Gwerthuso’r data cyrhaeddiad yng ngoleuni rhaglen Grant Datblygu Disgyblion a rhaglen Her Ysgolion Cymru;

7)      Targedu cyllid / cefnogaeth i ddisgyblion mwy abl a thalentog;

8)       Gwerth am arian y rhaglen Grant Datblygu Disgyblion a rhaglen Her Ysgolion Cymru.

 

Er nad ydy sefyllfa lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg tair oed yn amlygu ei hun fel rhan o gylch gorchwyl yr ymchwiliad,  mae Mudiad Meithrin o’r farn fod gennym ni wybodaeth bwysig a pherthnasol i’w rannu gyda’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.  Cyflwynwn wybodaeth ynglŷn â phrofiadau’r Cylchoedd Meithrin o’r Grant Amddifadedd Disgyblion gynt ac o’r Grant Datblygu Disgyblion presennol.  Mae ein tystiolaeth yn berthnasol i feysydd 1 a 2 o’r cylch gorchwyl uchod.

1.1        Mae Mudiad Meithrin yn cefnogi 220 o Gylchoedd Meithrin sydd yn ddarparwyr addysg 3 oed wedi eu hariannu gan eu hawdurdodau lleol.  Yn 2015 cyflwynodd Llywodraeth Cymru y GADBC ac yn ystod 2015-2016 roedd hwn werth £300 i bob dysgwr cymwys 3 a 4 oed oedd yn derbyn addysg gynnar y cyfnod sylfaen am o leiaf 10 awr yr wythnos mewn sefydliad addysg gymeradwy.  Cynyddwyd swm y grant i £600 fesul plentyn cymwys a newidiwyd enw’r i Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn 2017. 

1.2        Telir y GDDBC ar gyfer lleoliadau nas cynhelir i’r consortia rhanbarthol.  Mae tri allan o’r pedwar Consortia rhanbarthol yn dosrannu’r cyllid i’r awdurdodau lleol yn eu hardaloedd.  Mae’r awdurdodau lleol wedyn fel arfer yn gweithio gydag athrawon ymgynghorol y cyfnod sylfaen i gyfeirio’r arian at fudd lleoliadau nas cynhelir.  Mae un Consortiwm yn cyflogi athrawon ymgynghorol yn uniongyrchol i weithio dros 5 Sir.  Yn y rhanbarth hwnnw, y consortia sydd yn gyfrifol am ddosrannu’r GDDBC yn uniongyrchol i’r lleoliadau nas cynhelir.

1.3        Gwnaed astudiaeth ymchwil yn Mis Mehefin 2016 ‘Gwerthusiad o ddull dyrannu Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru’ gan -Uned ddata Llywodraeth Leol  Cymru.  <http://www.unedddatacymru.gov.uk/SharedFiles/Download.aspx?pageid=86&fileid=98&mid=152> Mae nifer o’u hargymhellion yn parhau i fod yn berthnasol ac felly bydd Mudiad Meithrin yn cyfeirio at rhain yn yr ymateb hwn.

 

DYRANIAD Y GRANT

2.1   Ar gyfer lleoliadau yn y sector nas cynhelir mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar sail  nifer y dysgwyr a ariennir ar gyfer y Cyfnod Sylfaen mewn lleoliadau nas cynhelir, wedi’i luosi â lefel gyffredinol y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim ymysg plant pum mlwydd oed yn ardal yr awdurdod lleol.

2.2   Dengys gwaith ymchwil cychwynnol Mudiad Meithrin[1] fod amrywiaeth mawr yn bodoli ar draws Cymru yn y modd y mae’r grant wedyn yn cael ei drosglwyddo er budd Cylchoedd Meithrin a’u plant.

2.3   Mae un consortiwm rhanbarthol sydd â chyfrifoldeb am bum ardal yn ariannu’r cylchoedd yn uniongyrchol.  Maent yn darparu cyngor i’r cylchoedd ynglŷn â’r defnydd gorau o’r grant ac yn eu cynorthwyo i lunio cynlluniau GADBC sydd yn benodol i’r cylch hwnnw.  Mae’r gwariant fel arfer yn mynd tuag at uwch sgilio staff gyda ffocws arbennig ar themâu perthnasol e.e. ymyraethau iaith a llefaredd.

2.4   Adroddodd sawl ardal ble mae’r awdurdod lleol yn cymryd y cyfrifoldeb am wariant y grant, eu bod yn trefnu sesiynau hyfforddiant am ddim i staff Cylchoedd Meithrin.  Maent hefyd yn dosbarthu adnoddau iddynt ar sail eu hasesiadau nhw fel awdurdod lleol o anghenion staff y cylchoedd.  Mae’r awdurdodau hynny yn nodi eu bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ‘Beth sydd wir yn gweithio ar gyfer y blynyddoedd cynnar?’ Canllawiau ar gyfer Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar <http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/150506-pdg-what-really-works-cy.pdf>

 

2.5  Tra bod y dull dyrannu presennol yn rhoi rhyddid i ysgolion ddefnyddio’r cyllid am amrediad o ymyraethau i ddarparu cymorth i ddysgwyr (a rhieni), nid oes gan leoliadau nas cynhelir yr un rhyddid.  Yn wir wrth ofyn i Gylchoedd Meithrin yn uniongyrchol beth yw eu barn hwy o ddefnydd y GDDBC, mae yna gyfran sylweddol sydd ddim yn ymwybodol bod yr hyfforddiant neu’r adnoddau maent wedi derbyn wedi digwydd oherwydd y GDDBC.  Mae ymwybyddiaeth o’r grant wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil gwaith yr athrawon ymgynghorol.   Mae yna rai siroedd ble darperir hyfforddiant sydd yn cyd-fynd ag amcanion y GDDBC, heb i’r cylchoedd sylweddoli mai dyna yw ffynhonnell y gefnogaeth ariannol na bwriad yr ymyraethau hyfforddiant yn y pendraw.

 

2.6 Mae Mudiad Meithrin yn cyd-fynd gyda phenderfyniadau'r awdurdodau lleol ar y cyfan o safbwynt cynnwys yr hyn sydd yn cael ei ddarparu trwy’r grant.  Rydym o’r farn y gellid gwella ymwybyddiaeth staff o nod y gwariant.  Byddai hyn yn ymrymuso gweithwyr yn y cylchoedd ac yn gwella eu dealltwriaeth broffesiynol o’r maes tlodi plant.   Rydym hefyd o’r farn fod annog pob awdurdod lleol yn ymgynghori gyda’r cylchoedd i ystyried pa gynlluniau penodol neu hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig i  bob lleoliad.   

 

DIWALLU PWRPAS Y GRANT -  EFFAITH

3.1   Nod y GADBC (a’r GDDBC nawr) yw gwella cyrhaeddiad plant o bob gallu o gartrefi

         incwm isel i’w helpu i wireddu eu potensial.  Er mwyn i’r GDDBC fod yn effeithiol,  mae’n hanfodol iddo gael ei ddefnyddio i gefnogi’r plant y mae wedi’i fwriadu ar eu  cyfer.  

3.2   Gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru am ddefnydd y GADBC “Beth sydd wir yn gweithio i'r blynyddoedd cynnar” [2] a “Penderfynu pa ymyriadau i’w defnyddio yn eich ysgol / lleoliad” [3]awgrymir mai’r prif feysydd y dylai lleoliadau nas cynhelir ag ysgolion ganolbwyntio arno yw: 

 

         Ymgysylltu gyda theuluoedd; pedagogeg; datblygu staff ac arweinyddiaeth; llefaredd, iaith a chyfathrebu; asesu; hunan reoleiddio; dysgu cymdeithasol ac emosiynol; technoleg ddigidol; llythrennedd a rhifedd cynnar a gweithio gydag eraill.

 

3.3   Fel rhan o waith ymchwil pen desg Mudiad Meithrin gofynnwyd i awdurdodau lleol pa fath o hyfforddiant ac adnoddau sydd yn cael eu cynnig i’r lleoliadau nas cynhelir. Rhoddwyd enghreifftiau megis sesiynau hyfforddiant ar y proffil cyfnod sylfaen,                        dynesiadau amrywiol ar rifedd fel Numicon,  cyrsiau rhianta i wella cydweithrediad gyda theuluoedd, ymweliadau addysgol, ymyraethau iaith a llefaredd fel Elklan, Wellcom ac ELSA (Emotional Literacy Support Assistant).

3.4  Mae Mudiad Meithrin wedi codi cwestiynau am briodoledd rhai o’r cynlluniau ymyrraeth gynnar fel teclyn i’w ddefnyddio yn ystod amser Cylch Meithrin gan nad yw cyfrwng iaith yr ymyrraeth (e.e. Wellcom) bob amser yn cyd-fynd a pholisi iaith y cylchoedd,  sef gweithio i drochi plant yn yr iaith Gymraeg.  Mae’r drafodaeth hon yn parhau mewn sawl awdurdod lleol ac yn genedlaethol. 

 

3.5 Cytunwn gyda’r ffocws presennol ar uwch-sgilio’r gweithlu blynyddoedd cynnar mewn materion amrywiol yn unol â chanllawiau’r grant.   Mae sicrhau gweithlu cymwys o’r safon uchaf yn holl bwysig er mwyn cael yr effaith orau ar blant ifanc sydd yn byw gydag effeithiau amddifadedd.*

 

3.6  Fel y nodwyd eisoes rydym o’r farn y gellid gwella ymwybyddiaeth staff o nod y gwariant.  Byddai hyn yn ymrymuso gweithwyr yn y cylchoedd ac yn gwella eu dealltwriaeth broffesiynol o’r maes tlodi plant.   Rydym hefyd o’r farn fod annog pob awdurdod lleol i ymgynghori gyda’r cylchoedd i ystyried pa gynlluniau penodol neu hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig i  bob lleoliad.   

3.7      Wrth werthuso effeithiolrwydd yr hyfforddiant a’r adnoddau amrywiol sydd yn cael    eu darparu i staff cylchoedd meithrin o dan y grant hwn rhaid ystyried sawl peth. 

        Yn gyntaf mae rhai o’r plant yn treulio cyfnod byr iawn mewn lleoliad Cylch Meithrin - weithiau, cyn lleied â dau dymor.  Ni fydd modd gwerthuso effaith uniongyrchol ar blentyn mewn cyfnod mor fyr.  Dylid nodi fod plant eraill yn treulio cyfnodau llawer hwy yn y Cylch Meithrin (dwy flynedd a mwy) yn ddibynnol ar bolisi mynediad yr Awdurdod Lleol.

      

 Bydd gwerthuso cymhwysedd a dealltwriaeth staff ynglŷn ag atal a lleihau effeithiau tlodi yn ddull gwerthfawr anuniongyrchol o fesur gwerth am arian.  Mae tystiolaeth bendant a chlir bellach fod affeithioldeb gwasanaethau blynyddoedd cynnar ar blant ifanc yn ddibynnol ar safon y gofal a’r addysg a geir.

 

3.7   Ers 2011 mae’r arolygon Estyn a gynhaliwyd mewn Cylchoedd Meithrin sydd yn ddarparwyr addysg yn dangos fod 89% ohonynt yn cyrraedd safon dda am eu perfformiad presennol gyda 91.7% o’r cylchoedd yn derbyn rhagolygon gwella o 'Da' neu 'Rhagorol'.  Tra bod Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyflawniad gweithwyr y Cylchoedd Meithrin yn hyn, gwelwn fod parhau i uwch sgilio y gweithlu blynyddoedd cynnar yn hanfodol er mwyn codi’r safonau yn uwch a chyrraedd safon ‘Rhagorol’ yn amlach.  Bydd hyn yn arwain at brofiadau gwell i bawb yn Cylch Meithrin ond yn arbennig i’r 29% o blant Cymru sydd yn byw mewn tlodi cymharol. 

 

ARGYMHELLION I’R DYFODOL

4.1 Bydd Mudiad Meithrin yn parhau i ymgyrchu dros wella mynediad i ofal ag addysg  blynyddoedd cynnar Cymraeg i blant Cymru i gyd.  Er mwyn gwneud hyn rhaid ystyried mesurau pellach i ariannu gofal ag addysg gynnar i bob plentyn dwy oed.  Rydym yn falch o’r ymrwymiad clodwiw a wneir eisoes gan Lywodraeth Cymru i’r rhaglen Dechrau’n Deg sydd yn darparu 12.5 awr o ofal plant safonol i ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.  Serch hynny gwyddwn fod nifer o blant dwy oed o deuluoedd tlawd yn colli’r cyfle i dderbyn y gwasanaethau blynyddoedd cynnar hollbwysig hyn oherwydd nad ydynt yn byw yn yr ardaloedd penodedig Dechrau’n Deg.

4.2 Croesawn y buddsoddiad yn sgiliau'r gweithlu blynyddoedd cynnar a ddaw yn sgil y GDDBC.  Mae’n bosib hefyd gydag ymgynghoriad mwy trylwyr rhwng y darparwyr addysg yn y Cylchoedd Meithrin a’r awdurdodau lleol, y gellid hefyd cyflwyno mwy o hyblygrwydd i ddefnydd y grant.  Ar adegau, efallai byddai cynnig ymyraethau neu gefnogaeth wedi eu targedu at fudd plentyn neu blant penodol yn ddefnydd da o’r grant hefyd.  Mae heriau i wneud hyn oherwydd nad yw’r plant mewn Cylchoedd Meithrin yn cael eu hasesu am gymhwysedd prydau ysgol am ddim.  Nid yw Cylchoedd Meithrin yn casglu gwybodaeth am sefyllfa economaidd teuluoedd y plant ar hyn o bryd.  Serch hynny gellid sefydlu ffyrdd amgen o ystyried anghenion plant a’u teuluoedd wrth drefnu gwariant y Grant yn y Cylch Meithrin, os mai dyma ddymuniad y Cylchoedd Meithrin sydd yn darparu’r addysg. 

4.3 Un o’r ffactorau mwyaf dylanwadol ynglŷn â phrofiadau plant tair oed o addysg Gymraeg yn gyffredinol ar draws Cymru yw hygyrchedd.  Gwyddom fod amryw o blant mewn teuluoedd difreintiedig yn colli allan ar y cyfle i dderbyn addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg oherwydd nad oes Cylch Meithrin neu ysgol Gymraeg yn eu cymuned.  Nid yw’r trefniadau presennol o safbwynt cael dewis di-gost i fynychu lleoliad addysg Cymraeg yn sicrhau cyfartaledd i bob plentyn yng Nghymru.  Mae amryw o ffactorau yn dylanwadu ar hyn, ac amryw o gynlluniau ar y gweill i geisio gwella’r sefyllfa.   Dylai’r Pwyllgor fod yn ymwybodol wrth ystyried gwariant y GDDBC, fod mynediad i leoliad addysg Cymraeg yn y lle cyntaf yn fater ble gwelir anghydraddoldeb economaidd yn amlygu ei hun cyn i’r plentyn fyth groesi’r trothwy.  Y prif reswm am hyn yw lleoliadau daearyddol addysg Gymraeg a'r her a’r gost o deithio iddynt.

 

 

.

 



[1] Mae Mudiad Meithrin wedi cwblhau ymwchil pen desg yn Mis Rhagfyr 2017 ac yn mynd i gynnal ymchwiliad derbyn tystiolaeth oddi wrth Cylchoedd Meithrin sydd yn darparu addysg 3 oed yn uniongyrchol yn ystod mis Ionawr 2018 ar y pwnc hwn.

[2] http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/150506-pdg-what-really-works-cy.pdf

[3] http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/141201-pupil-deprivation-grant-poster-cy.pdf>